Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 5 Rhagfyr 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 11:20 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mark Drakeford (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Vaughan Gething William Graham Elin Jones Darren Millar Lynne Neagle Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Lesley Griffiths, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Chris Jones, Llywodraeth Cymru David Sissling, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Sarah Beasley (Clerc) Llinos Dafydd (Clerc) Steve George (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Olga Lewis (Dirprwy Glerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Victoria Paris (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2. Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
2.1 Atebodd y Gweinidog a’i swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth ysgrifenedig am brosiectau cyfalaf sydd heb eu cyflawni, y manylion fesul bwrdd iechyd o sut byddai’r £82 miliwn ychwanegol ar gyfer y GIG yn cael ei ddyrannu, sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at yr adolygiad o’r cydbwysedd o ran cymhwysedd rhwng y DU a’r UE, a’r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer staff yn y lluoedd arfog a’r gwasanaethau brys.
3. Papurau i'w nodi
Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Faterion Ewropeaidd
3.1 Nododd y Pwyllgor y papur.
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol: Camau gweithredu yn deillio o'r cyfarfod ar 17 Hydref a oedd yn craffu ar y gyllideb
3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4. Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): Ystyried penodi Cynghorydd Arbenigol i gynorthwyo’r gwaith o graffu ar y Bil
4.1 Trafododd y Pwyllgor yr opsiwn o benodi cynghorydd arbenigol i’w gynorthwyo â’r gwaith o graffu ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yng nghyfnod 1.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor y byddai cymorth o’r maes polisi perthnasol yn ddefnyddiol a bod gwerth ymchwilio i’r opsiwn. Cytunodd y Pwyllgor y gallai fod o fudd chwilio am gyngor gan nifer o gynghorwyr, a allai ei gynorthwyo i ystyried materion penodol, yn hytrach na phenodi un cynghorydd arbenigol.
4.3 Holodd y Pwyllgor y tîm clercio i ymchwilio ymhellach a dod ag enwau ymgeiswyr posibl i’r Aelodau yn y cyfarfod nesaf.
5. Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) - Cyfnod 1: y dull o graffu
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl a’r dull o graffu ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) a chytunodd i lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan.
6. Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Cyfnod 1 – y dull o graffu
6.1 Cyfeiriodd Cadeirydd y Pwyllgor at lythyr diweddar a gafodd oddi wrth y Llywydd yn nodi, yn ei barn hi, bod y Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Fodd bynnag, nododd hefyd fod ei barn ar fin y gyllell o ran rhai rhannau o’r Bil. Amlinellodd y Cadeirydd y rhannau hynny o’r Bil a dywedodd y byddai’r llythyr yn cael ei anfon at Aelodau’n fuan.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylid ystyried y materion a godwyd gan y Llywydd adeg y broses graffu yng Nghyfnod 1. Holwyd cynghorwyr cyfreithiol y Pwyllgor i ddarparu rhagor o wybodaeth am y materion a gododd y Llywydd er mwyn gallu llunio cwestiynau i gynorthwyo’r Pwyllgor i ymchwilio i’r materion hynny gyda’r tystion perthnasol.
6.3 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) yng Nghyfnod 1.
6.4 Roedd y Pwyllgor yn fodlon â’r dull cyffredinol o graffu a awgrymwyd ym mhapur y Pwyllgor ond cytunodd y dylid ychwanegu cwestiwn am gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol at y llythyr ymgynghoriad.
6.5 Cytunwyd hefyd y dylid ystyried cynrychiolwyr o elusennau canser, byrddau iechyd, y diwydiant adeiladu a sefydliadau sy’n cynhyrchu asbestos fel tystion llafar ychwanegol.
7. Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Cyfnod 1 – sesiwn dystiolaeth 1 - GOHIRIWYD
Trawsgrifiad
Gweld y trawsgrifiad o'r cyfarfod